Cyfle Gwaith

Cyfle Gwaith ar brosiect Kathod Merched Yn Gwneud Miwsig

Awydd creu fideo newydd ar gyfer un o fandiau mwya cwl Cymru?
Ni’n chwilio am rywun i ymuno â phrosiect cyffrous newydd, i weithio gyda MYGM, Heledd Watkins, Ani Glass a Bethan Mai!

Os wyt ti’n…

– adnabod fel merch
– ar ddechrau gyrfa neu’n astudio ar hyn o bryd
– ac yn byw yng Nghymru
Ni isie clywed wrthyt ti!

Mae’r briff yn syml…

Gan ddilyn themâu’r gân, byddwn yn gofyn i ti greu fideo gwreiddiol (o bell), gan ddefnyddio pa bynnag adnoddau sydd gennyt.
Does dim angen unrhyw offer ffansi! Defnyddia dy ffôn, dy amgylchedd, beth bynnag sy o dy gwmpas! Ewch ati i wrando ar y gân yma.

Y themâu yw:
Gwrachod
Merched cryf
Bod yn annibynnol
Y lleuad

Sut wnei di elwa?

Bydd y fideo’n cael ei lledaenu ar draws nifer o brif blatfformau creadigol Cymru!
Cyllideb o £300 i gyflawni’r gwaith, ac am dy amser!
Lle yn rhifyn nesaf o zine MYGM!
Siawns i weithio efo merched blaena’r sin gerddoriaeth yng Nghymru!

Am gyfle i fod yn rhan o’r prosiect gwych yma, danfona e-bost at catrin@clwb.net gyda naill ai esiampl o dy waith NEU darn bach o ysgrifen yn esbonio dy syniadau.

Y dyddiad cau ar gyfer danfon syniadau neu esiampl o waith yw: 14/12/20

Cwestiwn? Danfonwch neges i ni trwy’n rhwydweithiau cymdeithasol neu trwy e-bost.

Pob lwc!